Croeso i ein hysgol
Yn Llys Hywel, rydyn ni’n deall pa mor hanfodol bwysig yw dewis yr ysgol gywir ar gyfer eich plentyn. Mae rhieni a gwarchodwyr yn disgwyl addysg dda i’w plant, ond hefyd am iddyn nhw deimlo’n hapus ac yn ddiogel. Rydym yn ymdrechu i gynnig hyn i gyd yn Llys Hywel. Un o’n prif nodau yw sicrhau bod pob plentyn yn mwynhau ei amser yn yr ysgol, mewn amgylchedd diogel mae meithrin unigolion hyderus, llwyddiannus, a gofalgar sy’n gallu cyfrannu at y gymuned o’u cwmpas.
Yn ogystal â’r prif adeilad hanesyddol, mae gennym hefyd neuadd ysgol fodern ac ystafelloedd dosbarth ychwanegol. Rydym yn ffodus o gael amrywiaeth eang o gyfleusterau awyr agored sy’n caniatáu i’r plant ddysgu drwy chwarae ac archwilio.
Mae Llys Hywel yn darparu addysg dwy ffrwd i blant rhwng 4 ac 11 oed.
Ffrwd Cymraeg – Derbyn i Flwyddyn 6 Ffrwd Saesneg – Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6
(o flynyddoedd 3 ymlaen, cynigir dewis i rieni/gwarcheidwaid naill ai addysgu drwy’r Ffrwd Gymraeg neu addysg Ffrwd Saesneg i’w plentyn)
Archwiliwch ymhellach i ddod i adnabod ein hysgol. Mae gennym bolisi drws agored felly, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Dilynwch y linc er mwyn cofrestru eich plentyn i’n hysgol ni: