CRA

CYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON – Cyfarfod Nesaf Ionawr 21 am 3.30yp – Croeso i bawb

Mae gan yr Ysgol Gymdeithas Rieni ac Athrawon effeithiol a chefnogol iawn. 

 Yn ystod y cyfarfodydd, bydd y Pennaeth a’r staff yn bresennol i:-

  • rhoi gwybodaeth am yr Ysgol
  • rhoi gwybodaeth am faterion diweddar ym myd addysg
  • wrando ac i ymateb i bryderon, neu ofynion y rhieni ynglŷn â’u plant neu’r cwricwlwm.

Fel ysgol rydym yn cydweithio gyda rhieni a’r gymuned i godi arian am adnoddau dysgu.

Croeso cynnes i bob aelod o gymuned yr ysgol fod yn rhan o’r gymdeithas hon.